Show Racism The Red Card

Home Events Latest News Campaign Gallery Hall of Fame Players Views Poetry Corner Posters Schools Links Resources Volunteers Contact Us Wales Cymru Scotland Ireland


Quotes

Read this story in English


Dangos y cerdyn coch i hiliaeth


Lansio 'Cerdyn coch i hiliaeth' gwesty bro morgannwg


10 Hydref 2005


Ryan GiggsThe Trefnodd Grwp Llywio 'Cerdyn Coch i Hiliaeth' bod yr ymgyrch yng Nghymru'n cael ei lansio yng Ngwesty Bro Morgannwg ar 10 Hydref 2005.


Gwahoddwyd gwesteion o'r sefydliadau partner - UNSAIN, Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, Undeb Amaethwyr Cymru, Ymddiriedolaeth Undeb Amaethwyr Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru i'r lansiad, yn ogystal â dwy ysgol leol.


Yno hefyd 'roedd y pêl-droedwyr Neil Cox a Tariq Khalil o dîm pêl-droed Dinas Caerdydd a Roberto Martinez, Izzy Iriekpen, Leon Britton a Garry Monk o dîm pêl-droed Dinas Abertawe. Roeddem yn hynod o lwcus bod tîm pêl-droed Cymru'n aros yn y gwesty ar y pryd cyn eu gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Azerbaijan, felly daeth John Toshack, Rheolwr Cymru a'r chwaraewyr rhyngwladol Ryan Giggs o Manchester United a Jason Brown draw hefyd.


Ryan GiggsY siaradwr gwadd yn y lansiad oedd John Griffiths, Aelod Cynulliad Cymru dros Ddwyrain Casnewydd, sydd wedi rhoi ei gefnogaeth lwyraf i'r ymgyrch, ar ran Llywodraeth y Cynulliad.


Chwaraewyd fersiwn Cymru o DVD yr ymgyrch 'Cerdyn Coch i Hiliaeth', cyn gofyn i'r plant ysgol a oedd yn bresennol a oeddent am holi'r pêl-droedwyr.


Gofynnodd nifer o'r plant i'r chwaraewyr pa brofiad o hiliaeth yr oedden nhw wedi ei wynebu fel plant, oedolion a phêl-droedwyr.


Ryan GiggsRhoddodd Ryan Giggs, yn arbennig, ddarlun clir iawn o'r anawsterau a wynebwyd ganddo ef. Roedd hyn yn destun syndod i nifer o bobl, gan nad yw Ryan, sydd o waed cymysg, yn amlwg yn ddu. Roedd y chwaraewyr eraill hefyd yn agored a gonest iawn am eu profiadau, a sut y bu iddynt ddelio â nhw.


Yn dilyn y sesiwn holi ac ateb, gwahoddwyd y plant i ddod i gael llofnod y chwaraewyr.


Cafwyd ymateb da iawn i'r digwyddiad ac i'r DVD yn arbennig, gyda'r sefydliadau partner yn fwy ymroddedig fyth i sicrhau bod yr ymgyrch 'Cerdyn Coch i Hiliaeth' yn profi'r un llwyddiant yng Nghymru ag y gwnaeth mewn rhannau o Loegr a'r Alban.



Report by Dawn Hayes