Read this story in English
Dangos y cerdyn coch i hiliaeth
Lansio poster a DVD dinas caerdydd
16 Chwefror 2006
Lansiodd
SRTRC y fersiwn Gymraeg o'i DVD a phoster Dinas Caerdydd newydd yn llwyddiannus
ym Mharc Ninian ar 16 Chwefror.
Mynychwyd y lansiad gan blant Ysgol Gynradd Trelái yng Nghaerdydd yn ogystal â chyn-chwaraewyr Dinas Caerdydd Gary a Dave Bennett a chwaraewyr heddiw, y Capten Darren Purse a'r amddiffynnwr Neil Cox.
Ar
ôl dangos y DVD i'r plant, cawsant gyfle i holi'r chwaraewyr am eu profiad
o hiliaeth yn y byd pêl-droed. Bu Gary a Dave yn disgrifio'n union yr
hyn a ddigwyddodd iddyn nhw ac yn rhoi cyngor i'r sawl a oedd yno am sut
i ddelio â phroblemau eu hunain. Cyfeiriodd Gary hefyd at yr angen i herio
pob math o wahaniaethu, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail diwylliant a
chrefydd.
Dywedodd Darren a Neil fod angen i bobl herio hiliaeth ble bynnag y byddant yn dod ar ei thraws a dweud eu dweud yn ei herbyn.
Yn
y digwyddiad hefyd yr oedd Luke Clements sef enillydd rhanbarthol Cymru
yng nghystadleuaeth poster SRTRC. Enillodd Luke grys Manchester United
ac ymweliad â maes Old Trafford am sesiwn hyfforddi gyda Rio Ferdinand
ar 14 Mawrth. Tynnwyd llun Luke gyda'r holl chwaraewyr a oedd yn bresennol.
Wedi'r ffurfioldeb, daeth yr holl blant a fu'n gofyn cwestiynau i gael eu llun gyda'r chwaraewyr a chael taith o amgylch Parc Ninian; yna, bu'r chwaraewyr yn llofnodi copïau o'r poster newydd i'r plant fynd â hwy adref.
|